Partneriaeth Gref
Safonau Meincnodau cenedlaethol
Rhannu Ymarfer Da
Amcangyfrifir bod gweithlu gofal cymdeithasol y DU yn cynnwys 1.8 miliwn o swyddi erbyn hyn, sef 6% o gyfanswm swyddi’r DU, felly mae’n bwysig ein bod yn cydnabod cyfraniad aruthrol y gweithwyr hyn a’n bod ni fel partneriaid yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi eu datblygiad.
Datblygir Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar y cyd gan ein sefydliadau partner a chyflogwyr gofal cymdeithasol. Safonau ymarfer y mae’n rhaid i bobl eu bodloni wrth weithio mewn rolau gwasanaethau cymdeithasol penodol yw’r rhain ac maent yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n gysylltiedig â’r rôl honno.
Mae partneriaid Sgiliau Gofal a Datblygu yn cydymffurfio ag egwyddorion cyffredin ar gyfer dysgu a chymwysterau yn y sector gofal ledled y DU. Mae’r egwyddorion yn dangos sut y mae gweithio fel partneriaeth yn gwella gwaith partneriaid Sgiliau Gofal a Datblygu.
Ar gyfer egwyddorion a dulliau gweithredu cytunedig yn ymwneud ag asesu mewn cymwysterau
Mae Gofal yn un o’r meysydd cyflogaeth sy’n tyfu gyflymaf yn y DU wrth i’r galw am ein gwasanaethau gynyddu. Mae mwy o gyfleoedd gwych ym maes gofal nawr nag erioed o’r blaen. Os ydych eisiau canfod a allai swydd mewn gofal cymdeithasol fod yn addas i chi darllenwch Gofal yn Galw: Gyrfa i chi?
The economic value of the social care sector wedi’i gomisiynu gan Sgiliau Gofal a Datblygu a’i gynhyrchu gan ICF Consulting Limited. Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod sector gofal cymdeithasol
oedolion y DU yn cyfrannu £46.2 biliwn i’r economi, felly mae’n sector pwysig iawn i economi’r DU.
Mae’n cynrychioli 6% o gyfanswm y swyddi ac mae’r enillion cyfartalog yn £17,300. Ar gyfartaledd, roedd gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yn cynhyrchu £19,700 o werth i’r economi. Mae’r adroddiad yn rhannu effaith economaidd sector sy’n tyfu sy’n cynnig gwasanaethau mewn 45,000 o safleoedd ledled y DU mewn 1.8 miliwn o swyddi.
Mae adroddiadau ar wahân wedi’u cyhoeddi hefyd ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.