Pwy ydym ni?
Y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gofal Cymdeithasol
Ni yw’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer gofal cymdeithasol oedolion a gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn y Deyrnas Unedig (DU), felly ein partneriaid yw sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu sgiliau a gweithluoedd yn y sector – mae’r rhain yn cynnwys staff proffesiynol, staff sy’n arbenigo mewn galwedigaethau penodol, staff gweinyddol, staff cymorth a gweithwyr ategol eraill.
Partneriaeth Gref
Mae Sgiliau Gofal a Datblygu yn bartneriaeth gref, sy’n gweithio ledled y DU i gefnogi lleihau bylchau a phrinder sgiliau, gan gynyddu cyfleoedd i hybu sgiliau a gallu pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae llais cyfunol y bartneriaeth rhwng y pedwar sefydliad hyn ledled y DU yn gaffaeliad da i’r sector gofal cymdeithasol ehangach.
Safonau Meincnodau cenedlaethol
Mae’r partneriaid yn gweithio gyda chyflogwyr, llunwyr polisïau, darparwyr dysgu a chyflogwyr o bob maint – o gwmnïau mawr i fusnesau micro a chyflogwyr unigol, i helpu i ddatblygu gweithlu medrus drwy Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a phrentisiaethau, a thrwy gyfeirio at amrediad eang o gyfleoedd dysgu.
Rhannu Ymarfer Da
Aelodau’r Bwrdd
Oonagh-Smyth-Main-Colour- SfCD
Oonagh Smyth
Prif Weithredwr, Sgiliau Gofal
Sarah-McCarty 2
Sarah McCarty
Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
SSSC-5912_low_res
Maree Allison
Prif Weithredwr, Cyngor Gwansanae thau Cymdeithasol Yr Alban (SSSC)
Tracy-Reid
Tracy Reid
Prif Weithredwr, Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (NISCC)
Neil
Neil Leitch
Prif Weithredwr, Early Years Alliance
ColumConway_White Background_Square_02
Colum Conway
Prif Weithredwr, Social Work England
Claire O Cleary CORU
Claire O'Cleary
Prif Weithredwr, CORU
Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydym yn cydweithio i gynyddu cyfleoedd i rannu arfer da, cefnogi ein cyfoedion fel ffrindiau beirniadol, datblygu adnoddau a rennir a chynyddu ein gwybodaeth.

  • Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar gyfer:
  • Mwy o gapasiti yn y gweithlu, i ddiwallu anghenion y boblogaeth
  • Gwell sgiliau a galluoedd yn y gweithlu
  • Mwy o ddefnydd o fewnwelediadau rheoleiddio i lywio datblygiad y gweithlu
  • Gwell statws gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a blynyddoedd cynnar

safonau

  Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)
ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

 

Cyflwyno’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS)

Mae’r gyfres hon o NOS yn disgrifio’r wybodaeth, y sgiliau a’r dealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant i lefel o arfer da a gydnabyddir yn genedlaethol.

Datblygwyd y NOS gan sefydliadau gosod safonau ledled y DU mewn partneriaeth â chyflogwyr, gweithwyr, pobl sydd â phrofiad byw, a rhanddeiliaid eraill. Diweddarwyd y gyfres hon ym mis Ionawr 2026 ar ôl adolygiad ledled y DU.

 

Pam mae’r NOS yn bwysig?

Gellir defnyddio NOS fel sail ar gyfer ystod eang o weithgareddau:

Cyfeiriadur NOS – NEWYDD

Mae’r Cyfeiriadur NOS yn cael ei gynnal gan Skills for Care and Development ac mae’n cynnwys adnoddau i gefnogi defnydd o gyfres NOS ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Gellir defnyddio’r Cyfeiriadur NOS i:

Cliciwch yma i wylio fideo ac i ddysgu mwy am y NOS a’r Cyfeiriadur NOS newydd

Egwyddorion ar gyfer Dysgu ac Asesu

Mae Sgiliau Gofal a Datblygu (SfC&D) wedi diweddaru ac wedi cyhoeddi’r Egwyddorion Asesu a Rannwyd i gefnogi asesu cyson o ansawdd uchel, a sicrhau ansawdd cymwysterau ar gyfer y gweithluoedd gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ledled y DU.

Datblygwyd yr egwyddorion hyn ar y cyd gan bartneriaid SfC&D ar draws Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda mewnbwn ac arbenigedd gan sefydliadau dyfarnu a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector. Mae’r egwyddorion yn nodi’r gofynion a’r dulliau gofynnol ar gyfer asesu a sicrhau ansawdd mewnol.

Mae’r egwyddorion diweddaraf yn darparu eglurhad ac yn cynnwys:

  • Asesiad cychwynnol cadarn, cydnabod dysgu blaenorol (RPL) ac addasiadau rhesymol
  • Tystio a chyfiawnhau penderfyniadau asesu yn llawn
  • Arsylwi uniongyrchol fel y dull sylfaenol ar gyfer asesu sgiliau
  • Dangos cymhwysedd galwedigaethol a gwybodaeth sector
  • Asesu canlyniadau dysgu sy’n seiliedig ar wybodaeth
  • Gofynion cofnodi a dogfennu
  • Defnyddio technoleg yn y broses asesu, gan gynnwys canllawiau ar AI
  • Prosesau sicrhau ansawdd mewnol

Nod yr egwyddorion hyn yw sicrhau bod cyflwyno cymwysterau yn cynnal gwerthoedd y sector, yn hyrwyddo arfer cynhwysol, ac yn cadw lleisiau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau wrth galon dysgu.

Sylwch: bydd cyfnod pontio a gellir parhau i gyfeirio at yr egwyddorion presennol tan 31 Mawrth 2026.

Gallwch ddod o hyd i’r Egwyddorion Asesu a Rannwyd yma.

 

Ar gyfer egwyddorion a dulliau gweithredu cytunedig yn ymwneud ag asesu mewn cymwysterau

Gyrfaoedd mewn Gofal

Mae Gofal yn un o’r meysydd cyflogaeth sy’n tyfu gyflymaf yn y DU wrth i’r galw am ein gwasanaethau gynyddu. Mae mwy o gyfleoedd gwych ym maes gofal nawr nag erioed o’r blaen. Os ydych eisiau canfod a allai swydd mewn gofal cymdeithasol fod yn addas i chi darllenwch Gofal yn Galw: Gyrfa i chi?

Rheoleiddio cymwysterau ac i ba raddau y gellir eu trosglwyddo ar draws y pedwar partner cenedlaethol
Os ydych yn dymuno gweithio mewn gwlad wahanol i’r un lle cawsoch eich cymhwyster rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â’r sefydliad partner yn y wlad lle rydych eisiau gweithio i gadarnhau’r gofynion. Mae dolenni cyswllt ar gyfer y partneriaid cenedlaethol i’w gweld isod.
Ymchwil

Economic and social value of the UK adult social care sector: UK

Comisiynodd Sgiliau Gofal a Datblygu Alma Economics i ddadansoddi gwerth economaidd a chymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn y DU gyfan ac ym mhob un o’r pedair gwlad gan ddefnyddio data o 2022/23.

Fe’i defnyddir i lywio’r achos economaidd dros fuddsoddi yn y sector gofal cymdeithasol a’i weithlu yn y DU gyfan (yn ogystal â chael dadansoddiadau cenedlaethol). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau gwneud polisïau ac adolygiadau gwariant cenedlaethol ar fuddsoddiad.

Cyfanswm gwerth uniongyrchol, anuniongyrchol ac ysgogedig y sector gofal cymdeithasol oedolion yn y DU oedd £71.2 biliwn.

£330 biliwn oedd buddion economaidd-gymdeithasol y sector gofal cymdeithasol i oedolion yn y DU, a £140 biliwn oedd y costau (2023). Mae hyn yn golygu am bob £1 a wariwyd yn y sector, roedd £2.40 mewn buddion economaidd-gymdeithasol.

Mae adroddiad llawn y DU, adroddiad cryno a ffeithlun sy’n rhoi cynrychiolaeth weledol o werth economaidd y sector gofal cymdeithasol ar gael isod:

Mae adroddiadau ar wahân wedi’u cyhoeddi hefyd ar gyfer Cymru, LloegrAlbana Gogledd Iwerddon.

 

Gallwch hefyd ddod o hyd i wefannau Data Gweithlu pob gwlad isod:

 

* Fersiynau Cymraeg o ffeithlun Cymru a’r adroddiad cryno ac adroddiadau’r DU ar gael ar gais.